Helping people with serious, life-limiting illness in Ceredigion make the most of the precious time they have left. Sefydlwyd Gwirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref Ceredigion (sef HAHAV) yn 2014 gan grŵp o wirfoddolwyr, a hynny ar gyfer y gymuned leol yng Ngheredigion. Ymateb oedd hynny i’r angen oedd bron yn llethol am gymorth ymhlith pobl â salwch difrifol sy’n cyfyngu ar eu bywyd, eu gofalwyr a’u t
euluoedd. Cymorth yn y Cartref yw’r gwasanaeth cyntaf inni ei sefydlu. Cydlynydd sy’n ei reoli a thîm ymroddedig o wirfoddolwyr hyfforddedig sy’n rhoi’r gwasanaeth. Mae’n cyrraedd pobl ledled Ceredigion gan roi’r flaenoriaeth i bobl sy'n wynebu 12 mis olaf eu bywyd. Mae ein Gwasanaethau Byw'n Dda yn cynnal gweithgareddau sy'n cefnogi lles cleientiaid ac yn eu helpu nhw i reoli rhai o symptomau heriol salwch cronig, megis poen, blinder a phryder. Mae’r gweithgareddau’n rhad ac am ddim ac mae lluniaeth ar gael. Mae galar yn gallu bod yn brofiad sy’n gadael rhywun yn ynysig ac yn unig. Mae angen cymorth ychwanegol ar rai pobl i’w helpu nhw i brosesu eu colled. Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth cwnsela galar am ddim, ac mae ar gael ar unrhyw adeg yn ystod taith galar rhywun. Rydyn ni’n cynnig cymorth wyneb yn wyneb, ar lein, a dros y ffôn, a hynny yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Mae holl wasanaethau HAHAV ar gael am ddim i oedolion sy’n byw yng Ngheredigion ac sydd â salwch difrifol sy’n cyfyngu ar eu bywyd, eu gofalwyr/anwyliaid, a phobl mewn galar. Rydyn ni’n derbyn pobl sydd wedi cael eu cyfeirio gan ddarparwyr gofal iechyd ac elusennau eraill, yn ogystal â phobl sy’n troi aton ni eu hunain. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod os hoffech chi fanteisio ar ein gwasanaethau; neu i gael gwybod sut y gallwch chi ein cefnogi ni, trwy gyfrannu, codi arian neu wirfoddoli. Mae gennym siop elusen brysur yn 14 Heol y Wig, Aberystwyth a Warws Celfi yn Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon a dyma ein prif ffynonellau ariannu ochr yn ochr â rhoddion a gweithgareddau codi arian eraill. Gwefan: www.hahav.org.uk
E-bost: [email protected]
☎️ Canolfan Byw'n Dda: 01970 611550
☎️ Siop HAHAV: 01970 612194 Oriau Agor: Llun i Sadwrn 10:00 - 16:30
☎️ Warws: 01970 625387 Oriau Agor: Llun 10:00 - 16:30
Mercher, Iau a Gwener 9:30 - 16:30
Sadwrn 9:30 - 13:00
Cymdeithasol:
https://www.facebook.com/hahav.org.uk
https://x.com/compose/post
https://www.instagram.com/hahav_ceredigion/
Hospice at Home Volunteers Ceredigion (known as HAHAV), was created by a group of volunteers in 2014, for the local Ceredigion community, in response to almost overwhelming need for support amongst people with serious, life-limiting illness, their carers and families. Our founding service, Home-Support is managed by a coordinator and delivered by a dedicated team of trained volunteers, reaching people across Ceredigion, prioritising those facing the final 12 months of life. Our living well services provide activities supporting wellbeing and helping clients manage some of the challenging symptoms of chronic illness, such as pain, fatigue, and anxiety. Activities are free with refreshments available. Bereavement can be an isolating and lonely experience, and some people require additional support to help process their loss. We provide free bereavement counselling service, which is accessible at any point in a person’s journey of grief. Support can be in person, online and over the telephone and is provided in Welsh or English. All HAHAV’s services are free to access for adults living in Ceredigion with serious life-limiting illness, their carers/loved ones, and bereaved people. We accept referrals from healthcare providers and other charities, as well as self-referrals. Please contact us using the details below if you would like to access our services; or to find out how you can support us, through donating, fundraising, or volunteering. We have a busy charity shop at 14 Pier Street, Aberystwyth and a Furniture Warehouse in Glanyrafon Industrial Estate and these are our main sources of funding alongside donations and other fundraising activities. Website: www.hahav.org.uk
Email: [email protected]
☎️ Living Well Centre: 01970 611550
☎️ HAHAV Shop: 01970 612194 Opening Hours: Monday to Saturday 10:00 - 16:30
☎️ Warehouse: 01970 625387. Opening Hours: Monday 10:00 - 16:30
Wednesday, Thursday & Friday 9:30 - 16:30
Saturday 9:30 - 13:00
Social:
https://www.facebook.com/hahav.org.uk
https://x.com/compose/post
https://www.instagram.com/hahav_ceredigion/