Bwrdd Iechyd Hywel Dda

Bwrdd Iechyd Hywel Dda Yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i gymunedau ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. In English www.facebook.com/hywelddahealthboard

Mae Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.

Cynhelir cyfarfod o'r Bwrdd Iechyd Prifysgol ddydd Iau 24 Medi am 10.15yb, Y Stiwdio Fach, Canolfan S4C Yr Egin, Heol y ...
10/09/2026

Cynhelir cyfarfod o'r Bwrdd Iechyd Prifysgol ddydd Iau 24 Medi am 10.15yb, Y Stiwdio Fach, Canolfan S4C Yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ

Mae croeso i aelodau'r cyhoedd fynychu. Os ydych chi'n mynychu ac os oes gennych chi unrhyw anghenion hygyrchedd, rhowch wybod i'r Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol/Ysgrifennydd y Bwrdd yn y cyfeiriad isod. Bydd copïau electronig o'r papurau ar gael ac yn hygyrch i'w lawrlwytho o wefan y Bwrdd Iechyd Prifysgol 6 diwrnod cyn y cyfarfod trwy'r ddolen ganlynol:

https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/eich-bwrdd-iechyd/cyfarfodydd-y-bwrdd-2026/

Noder: bydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw ar y rhyngrwyd a gellir ei gyrchu trwy'r wefan ar ddiwrnod y cyfarfod trwy'r ddolen uchod.

Gellir darparu'r agendâu a'r papurau ategol mewn fformat gwahanol os oes angen (e.e. print bras) drwy gysylltu â Chyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol/Ysgrifennydd y Bwrdd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Swyddfeydd Corfforaethol, Bloc C, Adeiladau'r Llywodraeth, Teras Picton, Caerfyrddin SA31 3BT neu drwy e-bost at: [email protected]

Neil Wooding, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Yn byw gyda chyflyrau hirdymor? 👇
08/09/2026

Yn byw gyda chyflyrau hirdymor? 👇

Mae dwy ward yn Ysbyty Glangwili ar gau dros dro ar hyn o bryd i dderbyniadau ac ymwelwyr oherwydd achosion ar wahân o g...
04/09/2026

Mae dwy ward yn Ysbyty Glangwili ar gau dros dro ar hyn o bryd i dderbyniadau ac ymwelwyr oherwydd achosion ar wahân o gyflyrau heintus.
Mae Ward Steffan Glangwili yn rheoli achos o ffliw ac mae Ward Cadog yn rheoli achos o sgabies.
Mae iechyd, diogelwch a lles ein cleifion, ymwelwyr a staff yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni.
Rydym yn dilyn canllawiau cenedlaethol ac wedi cymryd camau ychwanegol i leihau y risg o ledaennu'r haint.
Mae ein Tîm Atal a Rheoli Heintiau yn gweithio'n agos gyda thimau wardiau a rheolwyr yr ysbyty i leihau unrhyw effaith ar wasanaethau ac i atal lledaeniad pellach gydag adolygiadau wedi'u cynllunio ar gyfer yr wythnos nesaf i asesu os gall wardiau ail-agor.
Am fwy o wygodaeth gweler: https://biphdd.gig.cymru/newyddion/datganiadau-ir-wasg/cau-wardiau-dros-dro-yn-ysbyty-glangwili/

Dysgwch fwy.Ynglŷn â newidiadau sydd ar ddod i drigolion Hywel Dda sy'n dewis rhoi genedigaeth yn Ysbyty Singleton.Pryd:...
04/09/2026

Dysgwch fwy.

Ynglŷn â newidiadau sydd ar ddod i drigolion Hywel Dda sy'n dewis rhoi genedigaeth yn Ysbyty Singleton.

Pryd: Dydd Llun, 7 Medi 6pm - 7pm

Ar-lein. Cofrestrwch https://forms.cloud.microsoft/e/U0kdgXB2Ak

Mae Tŷ Tudur, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin wedi'i nodi fel y lleoliad a ffefrir ar gyfer adleoli Canolfan Plant a Phobl I...
02/09/2026

Mae Tŷ Tudur, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin wedi'i nodi fel y lleoliad a ffefrir ar gyfer adleoli Canolfan Plant a Phobl Ifanc o Ysbyty Glangwili.

Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol, rydym yn gwahodd plant, pobl ifanc, teuluoedd, staff a chymunedau lleol i rannu eu barn yn ystod cyfnod ymgysylltu chwe wythnos sy'n dechrau ar 2 Medi 2026.

Byddai'r ganolfan newydd yn dod â gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a chymuned ynghyd mewn un amgylchedd modern a chroesawgar i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Dysgwch fwy yma: https://biphdd.gig.cymru/newyddion/datganiadau-ir-wasg/safle-a-ffefrir-wedii-nodi-ar-gyfer-y-ganolfan-plant-a-phobl-ifanc-newydd-arfaethedig/
Cwblhewch yr holiadur: www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk



Carmarthenshire Children's Centre: www.facebook.com/profile.php?id=100064915652986

Apel Bandi: www.facebook.com/profile.php?id=100064973132990

Rydym yn gofyn am farn ar gynnig a ffefrir i ddatblygu Man Diogel Adran 136 i oedolion yng Nghwm Seren, Parc Dewi Sant, ...
01/09/2026

Rydym yn gofyn am farn ar gynnig a ffefrir i ddatblygu Man Diogel Adran 136 i oedolion yng Nghwm Seren, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin.

Mae Man Diogel Adran 136 yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl sy'n profi argyfwng iechyd meddwl gael asesiad a chefnogaeth pan fyddant yn dod yno gan yr heddlu o dan bwerau brys o fewn y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Rydym eisiau clywed gan ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, staff, sefydliadau partner ac aelodau o'r cyhoedd am y cynnig, ei effaith bosibl, ac unrhyw awgrymiadau i helpu i fynd i'r afael â phryderon.

🗓️ Mae'r ymgysylltu yn rhedeg rhwng 1 Medi a 26 Hydref 2026
Gallwch rannu eich barn drwy:

✅ Cwblhau arolwg dienw drwy www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk
✅ E-bostio: [email protected]
✅ Ffonio: 0300 303 8322 (opsiwn 5)
✅ Gofyn am gopi papur drwy ffonio'r rhif uchod a'i ddychwelyd drwy FREEPOST HYWEL DDA UNIVERSITY HEALTH BOARD

Bydd ymgysylltu wedi'i dargedu hefyd yn digwydd gyda phobl sydd â phrofiad byw o broblemau iechyd meddwl, wedi'i gefnogi a'i hwyluso gan sefydliadau cymorth iechyd meddwl.

Bydd eich adborth yn helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch darparu gwasanaethau Adran 136 Man Diogel ar draws Hywel Dda.

Darllenwch y datganiad i'r wasg llawn yma: https://biphdd.gig.cymru/newyddion/datganiadau-ir-wasg/bwrdd-iechyd-yn-ceisio-barn-ar-leoliad-gwasanaeth-man-diogel-adran-136-yn-y-dyfodol/

Oeddech chi'n gwybod y gallech fod yn gymwys i gael y brechiad Men-b? • Os cawsoch eich geni rhwng 01/09/2007 a 31/08/20...
01/09/2026

Oeddech chi'n gwybod y gallech fod yn gymwys i gael y brechiad Men-b?
• Os cawsoch eich geni rhwng 01/09/2007 a 31/08/2008, byddwch yn cael cynnig y brechiad Men-B.
Neu;
• Wedi eich geni ar neu ar ôl 21/07/2001 (yn troi'n 25 oed ar neu ar ôl 21/07/2026) ac rydych chi'n mynychu addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf o Hydref 2026 ymlaen, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol a'r rhai o Weinyddiaethau Datganoledig y DU a Dibyniaethau'r Goron.

👉 https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/imiwneiddio-a-brechu/brechiad-menb-meningococcal-b/

Rhannwch os gwelwch yn dda: Mae ein Hadrannau Achosion Brys (A&E) ar draws ein hysbytai (Bronglais, Glangwili a Llwynhel...
30/08/2026

Rhannwch os gwelwch yn dda: Mae ein Hadrannau Achosion Brys (A&E) ar draws ein hysbytai (Bronglais, Glangwili a Llwynhelyg) yn ogystal ag Uned Man Anafiadau Ysbyty Tywysog Philip o dan bwysau sylweddol heddiw dydd Sul, 30 Awst 2026.

Rydym yn gofyn pobl i helpu ni i helpu chi - ewch am y gofal cywir yn y lle cywir.

GIG 111 Cymru yw eich cam cyntaf os ydych chi’n teimlo’n sâl ac yn ansicr ble i fynd i gael cymorth. Caiff y gwasanaeth ei redeg gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig a all roi cyngor arbenigol a’ch tywys i’r gofal cywir.

🌐Ewch i https://111.wales.nhs.uk/?locale=cy&term=A

📞Ffoniwch 111

🚑 Os yw’n argyfwng difrifol neu sy’n peryglu bywyd, ffoniwch 999 bob amser

Am gymorth iechyd meddwl 24/7 ffoniwch GIG 111 a dewiswch opsiwn 2.

Mynychwch Adran Achosion Brys dim ond os oes gennych salwch sy’n peryglu bywyd neu anaf difrifol, mae ambell wasanaeth all eich helpu. Ewch i https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/ysbytai-a-chanolfannau/unedau-man-anafiadau/ am fwy o wybodaeth.

Gall llawer o fferyllfeydd cymunedol hefyd ddarparu gwasanaethau cerdded i mewn, anhwylderau cyffredin neu frysbennu a thrin heb apwyntiad. Gallwch ddarganfod mwy yma: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/

Os oes gennych chi berthynas neu anwylyn yn yr ysbyty sy’n ddigon iach i fynd adref, ond sy’n aros i gael ei ryddhau gyda gofal-cartref a chymorth iechyd cymunedol, efallai y gallwch chi eu helpu i gyrraedd adref yn gynt os ydych chi a’ch teulu mewn sefyllfa i'w cefnogi gartref.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses a’r canllawiau rhyddhau o’r ysbyty yma: https://biphdd.gig.cymru/gwybodaeth-i-gleifion/cleifion-mewnol-ac-allanol/gwybodaeth-i-gleifion-mewnol/

Diolch am eich cefnogaeth, ac am ein helpu ni i'ch helpu chi.

Address

Ail Lawr, Bloc C, Adeiladau’r Llywodraeth, Heol Picton
Caerfyrddin
SA313BT

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Bwrdd Iechyd Hywel Dda posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share