15/06/2026
Roedd Rachel yn 46, yn heini, yn iach ac yn mwynhau bywyd. Roedd hi wedi treulio 18 mlynedd fel athrawes Saesneg, roedd yn awdur cyhoeddedig, yn briod yn hapus, ac yn fam i ddau o blant a dau gi.
Roedd hi'n actif ac roedd yn brysur trwy’r amser, roedd yn redwr brwd a oedd wrth ei bodd â yoga a mynd am dro hir gyda'i chŵn, nid oedd ganddi unrhyw reswm i feddwl bod unrhyw beth o'i le.
Pan ddechreuodd ei mislif newid, meddyliodd bod hyn oherwydd y perimenopos. Roedd hi bob amser wedi mynychu ei hapwyntiadau sgrinio ceg y groth. Pan gafodd ei galw'n ôl ar ôl canlyniad "annormal", teimlodd sioc ond roedd hyn yn rhoi tawelwch meddwl iddi. Dywedodd y llythyr fod canser yn annhebygol, a dywedodd ffrindiau wrthi eu bod wedi cael canlyniadau tebyg am resymau nad oeddynt yn ddifrifol.
Yn ei hapwyntiad dilynol, roedd hi'n disgwyl i bopeth fod yn iawn. Yn lle hynny, dywedwyd wrthi bod siawns uchel bod ganddi ganser ceg y groth, "Ni allwn gredu fod hyn yn digwydd i mi."
Cadarnhaodd profion bod gan Rachel ganser ceg y groth cam cynnar. Yr hyn a ddilynodd oedd corwynt o apwyntiadau, triniaeth a llawdriniaeth. O fewn misoedd, roedd hi wedi cael triniaethau a hysterectomi llawn.
Diolch byth, rhoddwyd yr all-clear i Rachel yn ddiweddarach.
Nid oedd gan Rachel unrhyw symptomau o gwbl. Heb sgrinio ceg y groth, efallai na fyddai ei chanser wedi'i ddarganfod tan yn llawer hwyrach.
Nawr yn ôl i gerdded ei chŵn a chadw'n actif, mae Rachel eisiau i eraill glywed ei stori, "Pan fyddwch chi'n cael eich gwahodd i sgrinio ceg y groth, ewch os gwelwch yn dda. Efallai y bydd yn teimlo'n rhywbeth arferol, ond gallai achub eich bywyd."