10/09/2026
Carfan 1 – Caerdydd | Hydref 2026
Ydych chi'n rheolwr gweithredol Band 6–8a Agenda ar gyfer Newid sy’n gweithio yn un o'r llwybrau clinigol hyn?
- Gwasanaethau canser
- Diagnosteg
- Iechyd meddwl
- Cleifion Allanol
- Gofal sylfaenol a chymunedol
- Theatrau
- Gofal brys ac argyfwng
Mae Rhaglen Datblygu Rheolwyr Gweithredol GIG Cymru, dan arweiniad Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), wedi'i chynllunio i gryfhau gallu arweinyddiaeth weithredol ar draws GIG Cymru.
Bydd y rhaglen yn eich helpu i:
• Gryfhau eich sgiliau a'ch hyder fel arweinydd gweithredol
• Dysgu oddi wrth a chysylltu gyda chydweithwyr ledled GIG Cymru
• Rhannu syniadau a datblygu atebion ymarferol i heriau gweithredol
Mae carfan 1 yn dechrau yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2026, gyda chymysgedd o ddysgu rhithwir ac wyneb yn wyneb.
Mae'r dyddiadau allweddol yn cynnwys:
• Cynfino rhithwir – wythnos yn dechrau 5 Hydref 26
• Diwrnod 1 – 20 Hydref 26 , Gwesty Leonardo, Caerdydd
• Pod Dysgu Rhithwir 1 – wythnos yn dechrau 9 Tachwedd 26
• Diwrnod 2 – 3 Rhagfyr 26, Gwesty Leonardo, Caerdydd
• Pod Dysgu Rhithwir 2 – wythnos yn dechrau 11 Ionawr 27
• Pod Dysgu Rhithwir 3 – wythnos yn dechrau 3 Chwefror 27
• Digwyddiad rhannu, dysgu ac effaith rhithiwr– Dydd Gwener 26 Chwefror 27
Gofynnir i bob rheolwr gweithredol cymwys lenwi'r ffurflen gofrestru, p'un a ydych yn gallu mynychu Carfan 1 neu beidio. Bydd eich manylion yn ein helpu i gynllunio carfanau yn y dyfodol a sicrhau eich bod yn derbyn diweddariadau rhaglen a chyfathrebiadau allweddol.
👉 Cofrestrwch nawr: https://orlo.uk/RCMRI
Adnabod rheolwr gweithredol cymwys? Rhannwch y rhaglen hon a'u hannog i gofrestru.
Darganfyddwch fwy am y rhaglen: https://orlo.uk/AOm7g