24/08/2026
Continuity of Care
Dear Patient,
We would like to inform you about some changes we are trying to implement within the surgery to help improve the care all our patients receive. We are working hard on a project called Continuity of Care which aims to improve healthcare outcomes for patients by focusing on delivering consistent and personalised care. To meet our goals for this project you may notice some minor changes in the way our receptionists navigate your call. Please be reassured they are working hard to try and provide you with the most appropriate appointment that will meet your needs.
Continuity of care is when the patient sees the same GP (or members of a clinical team) repeatedly over time. Continuity of care is a crucial component of providing good quality of care, which improves health outcomes. Research shows that patents who have good continuity of care are more satisfied and have a better relationship with their GP, are less likely to go to A&E, are less likely to be admitted to hospital and are likely to live longer. Good continuity also allows the doctor to provide higher quality care and have a better understanding of their patients’ individual needs.
To help us improve our continuity of care we are asking patients, when possible, to book appointments with the doctor they see most regularly. There will of course be times when this is not appropriate, for example in an acute illness or medical emergency. However, for routine and follow up appointments it would be beneficial to all if you could try to see the same GP you have been seeing most recently.
Again, we emphasise that all our staff here at the surgery are doing their best to provide every patient with the most appropriate appointment to fit their needs in a timely manner. Our aim is that patients will soon see the short- and long-term benefits of our hard work on this project and will reap the rewards of a more personalised and continuous approach to their healthcare.
Many Thanks
The Team at Meddygfa Teilo
Parhad Gofal
Annwyl Glaf,
Hoffem eich hysbysu am rai newidiadau rydym yn ceisio eu gweithredu yn y feddygfa i helpu i wella'r gofal y mae ein holl gleifion yn ei dderbyn. Rydym yn gweithio'n galed ar brosiect o'r enw 'Dilyniant Mewn Gofal' (Continuity of Care), sy'n anelu at wella canlyniadau gofal iechyd i gleifion drwy ganolbwyntio ar ddarparu gofal cyson a phersonol. Er mwyn cyrraedd nodau'r prosiect hwn, efallai y byddwch yn sylwi ar newidiadau bach yn y ffordd y mae ein derbynwyr yn delio â'ch galwad. Gallwch fod yn sicr eu bod yn gweithio'n galed i geisio trefnu'r apwyntiad mwyaf priodol i ddiwallu eich anghenion.
Mae dilyniant mewn gofal yn golygu bod claf yn gweld yr un Meddyg Teulu (neu aelodau o dîm clinigol) dro ar ôl tro dros amser. Mae dilyniant mewn gofal yn elfen hanfodol o ddarparu gofal o ansawdd da, sy'n gwella canlyniadau iechyd. Mae ymchwil yn dangos bod y claf sy'n cael dilyniant mewn gofal da yn hapusach gyda’r gofal, yn mwynhau perthynas well â'u Meddyg Teulu; maent yn llai tebygol o fynd i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, yn llai tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty, ac yn fwy tebygol o fyw'n hirach. Yn ogystal, mae dilyniant mewn gofal da yn galluogi'r meddyg i ddarparu gofal o ansawdd uwch a deall anghenion unigol eu cleifion yn well.
Er mwyn ein helpu i wella dilyniant mewn gofal, rydym yn gofyn i gleifion, lle bo modd, i wneud apwyntiadau gyda'r meddyg y maent yn gweld yn amlaf. Wrth gwrs, bydd adegau pan nad yw hyn yn briodol, er enghraifft mewn achos o salwch llym neu argyfwng meddygol. Fodd bynnag, ar gyfer apwyntiadau arferol ac apwyntiadau dilynol, byddai'n fuddiol i bawb pe gallech geisio gweld yr un Meddyg Teulu rydych wedi gweld yn fwyaf diweddar.
Unwaith eto, rydym yn pwysleisio bod ein holl staff yma yn y feddygfa yn gwneud eu gorau i ddarparu'r apwyntiad mwyaf priodol i ddiwallu anghenion pob claf mewn modd amserol. Ein nod yw y bydd cleifion yn gweld manteision tymor byr a thymor hir ein gwaith caled ar y prosiect hwn yn fuan, ac yn elwa ar ddull mwy personol a pharhaus o ddarparu gofal iechyd.
Diolch yn fawr
Tîm Meddygfa Teilo.